DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

Rheoliadau REACH etc. (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2019

DYDDIAD

24 Mehefin 2019

GAN

Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

 

Rheoliadau REACH etc. (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2019

 

Y Gyfraith sy'n cael ei diwygio

·         Rheoliadau REACH etc. (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019

 

Diben y diwygiadau

Mae Rheoliadau 2019 yn angenrheidiol ar gyfer gwneud addasiadau er mwyn datrys mater sy'n datblygu mewn perthynas â cheisiadau am awdurdodiad o dan REACH yr UE, na chafwyd penderfyniad yn eu cylch o hyd. Mae'r angen hwn yn deillio o effeithiau ymestyn Erthygl 50 hyd at ddiwedd mis Hydref, a dyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop yn ddiweddar yn erbyn y Comisiwn a oedd yn gwrthdroi rhai awdurdodiadau presennol.

 

Mae mwy a mwy o geisiadau am awdurdodiad i ddefnyddio Sylweddau sy’n Peri Pryder Mawr o dan gyfundrefn REACH yr UE na chafwyd penderfyniad yn eu cylch wedi cronni. Ni fyddai defnyddwyr yn is i lawr y gadwyn gyflenwi ac ymgeiswyr am awdurdodiad yn gallu cynhyrchu'r cemegion dan sylw, eu rhoi ar y farchnad na'u defnyddio o'r diwrnod ymadael ymlaen. Y datrysiad a gynigir yn awr yw diwygio Offerynnau Statudol REACH i roi i gwmnïau'r DU gyfle i wneud cais am awdurdodiadau ar ôl y diwrnod ymadael er mwyn sicrhau nad oes unrhyw darfu ar y diwydiant cemegion na'r gadwyn cyflenwi.

 

Y prif achos pryder yw'r nifer o benderfyniadau awdurdodi sy'n aros i gael eu gwneud mewn perthynas ag ystod o gyfansoddion, gan gynnwys, cromiwm triocsid a sodiwm deucromad. Defnyddir y sylweddau hyn yn bennaf at ddibenion peirianneg ac awyrofod arbenigol fel: gorchuddio deunyddiau â phlât crôm, amrywiol brosesau gorchuddio a chastinau polywrethan. Gan ystyried maint y diwydiannau awyrofod a modurol yn y DU a'r cadwyni cyflenwi cysylltiedig, mae'n debygol y byddai nifer sylweddol o gwmnïau (100oedd) yn cael eu heffeithio. Yn ôl asesiad Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y DU (DEFRA) mae effaith colli'r sylweddau hyn ar y gadwyn gyflenwi wedi gwaethygu ac mae'n parhau i gynyddu.

 

Mae mater pellach wedi codi yn sgil ymestyn Erthygl 50 hyd at 31 Hydref, i'r perwyl bod y dyddiadau ymgeisio olaf a dyddiadau machlud SVHC yn dod o fewn y cyfnod hwn. O ganlyniad, byddai rhaid bod ymgeiswyr o'r DU wedi cyflwyno ceisiadau i'r Asiantaeth Gemegion Ewropeaidd (yn hytrach nag i awdurdodau'r DU) er mwyn iddynt allu parhau i ddefnyddio'r sylweddau hynny. Ar ôl yr ymadawiad, bydd rhaid iddynt ailgyfeirio eu ceisiadau i awdurdodau'r DU ond ni fydd y ddarpariaeth sy'n galluogi busnesau i barhau i'w defnyddio ar ôl y dyddiad machlud pan nad oes penderfyniad wedi cael ei wneud eto yn berthnasol iddynt, oherwydd ni fyddant wedi gallu gwneud eu ceisiadau yn y DU cyn y Dyddiad Ymgeisio Olaf. Mae'r offeryn hwn yn diwygio OS REACH drwy bennu dyddiadau machlud a Dyddiadau Ymgeisio Olaf newydd ar gyfer y Sylweddau sy’n Peri Pryder Mawr fel y'u rhestrir yn Atodiad XIV o REACH y DU. Mae'r offeryn yn symud y dyddiadau ymgeisio olaf a'r dyddiadau machlud i 18 mis ar ôl y diwrnod ymadael.

 

Mae'r OS REACH yn cymhwyso rhai darpariaethau drwy ddyddiadau penodol neu mewn achosion eraill drwy ddyddiadau "symudol" sydd ynghlwm â'r diwrnod ymadael.  Mae goblygiadau gan yr estyniadau i Erthygl 50 ar gyfer y dyddiadau hyn hefyd, a fydd yn effeithio mewn rhai achosion ar ddyletswyddau'r rheoleiddiwr neu'n atal rhai busnesau rhag elwa ar ddarpariaeth. Yn yr achosion hyn, dylid diwygio'r dyddiadau neu'r amserlenni er mwyn diogelu'r bwriad gwreiddiol.

 

Mae'r OS REACH wedi ei gywiro hefyd i adlewyrchu'r newidiadau technegol diweddar i Reoliad REACH yr UE a'r newidiadau sy'n cael eu gwneud i'r OS REACH drwy OS Ymadael yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

Bydd yr offeryn hwn yn osgoi'r perygl o darfu ar gadwyni cyflenwi cemegion ac yn rhoi i ddiwydiant fwy o sicrwydd busnes y bydd sylw yn cael ei roi i'r sylweddau y maent wedi gwneud cais am awdurdodiad ar eu cyfer.

 

Mae Rheoliadau 2019 a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n nodi effaith y diwygiadau, i'w gweld yma: https://beta.parliament.uk/work-packages/TJQnGhoN

 

Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Nid yw Rheoliadau 2019 yn cael unrhyw effaith ar gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 

 

Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru

Nid yw Rheoliadau 2019 yn cael effaith ar allu Gweinidogion Cymru i arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru.

 

Pam y rhoddwyd cydsyniad

Fel y nodir uchod, mae Rheoliadau 2019 yn gwneud addasiadau er mwyn datrys mater sy'n datblygu mewn perthynas â cheisiadau am awdurdodiad o dan REACH yr UE, na chafwyd penderfyniad yn eu cylch o hyd. Mae'r angen hwn yn deillio o effeithiau ymestyn Erthygl 50 hyd at ddiwedd mis Hydref, a dyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop yn ddiweddar yn erbyn y Comisiwn a oedd yn gwrthdroi rhai awdurdodiadau presennol.